top of page

HYD YN OED RHAGOR O FWD YMBELYDROL AR GYFER BAE CAERDYDD ? PA MOR YMBELYDROL MAE E YN BAROD?

Mae hyd yn oed rhagor o fwd ymbelydrol i gael ei ychwanegu i Aber yr Hafren o gwmpas Caerdydd, os yw cynlluniau i ddympio 300,000 tunnell o fwd sy'n cael ei godi o safle ynni niwclear Hinkley Point yn mynd yn eu blaenau ac yna dympio’r mwd ar safle o'r enw Grounds Caerdydd, filltir yn unig o'r ddinas.

Rhoddodd weinidogion Cymreig ganiatâd yn 2013 i'r cawr ynni Ffrengig EDF i godi a dympio'r deunydd hwn yn Grounds Caerdydd, banc tywod ym Môr Hafren fel rhan o'u cynlluniau i adeiladu'r orsaf ynni niwclear newydd £19.6bn yn Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf.

Beth sy'n rhwbio halen yn y briw yw fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gymryd gwastraff niwclear fel bod Cwmni Ffrengig yn gallu adeiladu gorsaf niwclear yn Lloegr nad oes ei hangen, ac sy'n berygl difrifol posibl i iechyd a bydd yn costio'r ddaear.

Mae gollyngiadau ymbelydrol o wneuthuriad dyn i Aber yr Hafren wedi bod yn digwydd ers 1967 oan ddechreuodd Hinkley Point A ac wedyn B ddechrau gweithredu, ac maen nhw wedi cynnwys gollyngiadau o sefydliadau niwclear eraill a leolwyd yn gyfleus ar hyd Aber yr Hafren, hynny yw gorsafoedd niwclear Berkeley ac Oldbury. Mae EDFyn dweud bod y mwd yn meddu ar swm bach o ymbelydredd artiffisial, fydd fe honnant wedi deillio o ollyngiadau hanesyddol o ysbytai, cyfleusterau cynhyrchu isotopau meddygol (gan gynnwys y rheiny oedd yn arfer bod yng Nghaerdydd) ac yn olaf, cyfleusterau niwclear heb eu henwi. Fodd bynnag, mae'r gwaelodion sydd i'w codi wedi eu lleoli yn agos at bibau gollwng tymor hir gorsafoedd presennol Hinkley Point a byddant wedi casglu rhai o'r gollyngiadau arferol a ollyngwyd a’r rhai damweiniol o Hinkley A a B, yn ogystal âr gollyngiadau hylifol arferol o elfennau ymbelydrol, fel y manylir yn adroddiadau RIFE mewn man arall ar wefan EDF.

Mae EDF wedi dweud y bydd codi'r mwd yn cymryd 3 i 6 mis a bydd yn dechrau yn haf 2018. Maen nhw wedi amddiffyn eu gweithredoedd wrth ddweud eu bod yn un o lawer o gwmnïau (dros sawl degawd) sy'n codi a dympio mwd ym Môr Hafren ac nad yw eu mwd nhw yn wahanol i hwnnw sydd ar Grounds Caerdydd yn barod. Honnant fod eu profion, a weithredwyd gan CEFAS ym Mai 2017, yn dangos bod y mwd “ ddim yn cael ei ddosbarthu yn ymbelydrol o dan gyfraith y DU ac nad yw'n cynnig unrhyw fygythiad i iechyd dynol na'r amgylchedd.”

 

Fodd bynnag, mae WANA wedi cefnogi ei ymchwil ei hun.. Mae Tim Deere-Jones, ymchwilydd llygredd morol annibynnol,wedi codi nifer o bryderon.

 

· Roedd profion gan CEFAS o'r mwd y gellid ei ddympio yn Grounds Caerdydd yn ddiffygiol oherwydd o'r 50 radioniwclid gwahanol tebygol o fod yn bresennol, cofnododd CEFAS bresenoldeb 3 radioniwclid yn unig.

 

· Nid yw EDF wedi rhoi cyfrif am effaith gweithgaredd y cloddio fydd yn tarfu ar ac yn ailsymud gwaelodion.

 

· Mae safle Grounds Caerdydd yn safle gwasgaru, hynny yw NID oes disgwyl i'r deunydd sy'n cael ei ddympio aros yno. O ganlyniad mae'r deunydd yn debygol o gael ei ailddosbarthu gan gerrynt i fflatiau mwd ac aberoedd llanw a gallai fod trosglwyddo arwyddocaol o'r môr i'r tir o ronynnau ymbelydrol trwy chwistrellu o'r môr.

Ac mae gwaith ychwanegol gan Dr Chris Busby i WANA wedi cadarnhau bod canfyddiadau CEFAS yn ddiffygiol. "Nid yw CEFAS wedi defnyddio technegau dadansoddol a fyddai'n datgelu a oes gronynnau o wraniwm a phlwroniwm yn y mwd. Mae adroddiadau swyddogol ers y 1980au yn datgan yn gyson bod Môr Hafren yn cynnwys ymbelydredd o Sellafield. Mae egwyddor rhagofal yn mynnu y dylai CEFAS fod wedi chwilio am y fath ronynnau gan ddefnyddio spectrometreg alffa ond defnyddion nhw spectometreg gamma yn unig nad yw'n gallu eu gweld yn uniongyrchol. Dangosodd y spectrometreg gamma fodd bynnag gynhyrchion dirywiad sy'n awgrymu bod plwtoniwm ac wraniwm yn bresennol ond cafodd y wybodaeth hon ei chadw allan o'r adroddiadau i Gyfoeth Naturiol Cymru." (gweler y cyfeiriadau isod).

BETH ALLWCH CHI WNEUD

Cysylltwch â'ch AC i hawlio Dadl Lawn a dadansoddiad cywir o fwd Hinkley gan fod derbyniad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd o ddympio mwd Hinkley yn seiliedig ar ddata annigonol a diffygiol

 

https://www.youtube.com/watch?v=XXtPKEED0oc Cynhadledd i'r Wasg Chwef 13,, 2018

http://www.nuclearpolicy.info/wp/wp-content/uploads/2017/10/Rad_Waste_Brfg_69_Cardiff_Bay_and_Hinkley_new_build_waste.pdf

 

Papurau Chris Busby

http://www.llrc.org/2Dec2017Hinkleymud.pdf Adroddiad Green Audit Rhagfyr 2017 "The po-tential health effects to coastal populations of the dumping of 330,000 tons of radioactively contaminated mud on the coast of Wales” ( Cafodd ei ysgrifennu cyn y cais Rhyddid Gwybodaeth i CEFAS am y data digidol)

http://www.llrc.org/4Feb2018HinkMudRept.pdf  Adroddiad Green Audit Chwefror 2018 "Analysis of Hinkley Point Jetty application mud sample digital spectra supplied by CEFAS in January 2018".

 

http://www.llrc.org/hotpartmcevoy130218.pdf cyflwyniad i'r wasg ar gael yn Ystafell Briffio Cyfryngau y Senedd 13 Chwedfor, 2018.

 

Y lluniau unigol yw:

 

http://www.llrc.org/hamiltoncores70x115.bmp Dyma'r ddelwedd o greiddiau gwaelodion a sganiwyd o'r papur Hamilton a ddangoswyd ac a grybwyllwyd yn y cyflwyniad i'r wasg.

 

http://www.llrc.org/sellapart04340.JPG Dyma'r un ffotograff Green Audit sydd yn y cyflwyn-iad i'r wasg.

 

http://www.llrc.org/sellapart04337.JPG yr un gronyn wedki ei chwyddo i faint mwy.

 

http://www.llrc.org/mussel.jpg Dyma'r ddelwedd o bapur 1985 Hamilton a ddangoswyd yn y cyflwyniad i'r wasg. Mae'n drawsdoriad o ardal treulio bwyd cragen las fwytadwy o Ravenglass Cumbria sy'n dangos gronynnau poeth a ganfyddwyd gan yr un dechneg CR39 a ddefnyddiwyd gan Green Audit.

 

http://www.llrc.org/esksamplesmap.pdf Gwybodaeth ar gasglu samplau gwaelodion yn Cumbria (pwy, ble, pryd)

bottom of page