top of page

BETH SY’N DIGWYDD YN NHRAWSFYNYDD ? - SMR ac ANTS !!!

 

Trawsfynydd yw’r unig orsaf niwclear yn y DU sydd ddim ar yr arfordir, a chafodd ei chau yn 1991 ar ôl gweithredu am 26 blynedd. Fodd bynnag, ym Mehefin 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai canolfan gwerth £40m i gefnogi cynllunio Technolegau Niwclear Datblygedig yn cael ei datblygu ar y safle

 

 

Mae Techolegau Niwclear Datblygedig (ANT’s) yn cwmpasu Adweithyddion Modiwlaidd Bach (SMR’s) - y term a ddefnyddir i ddisgrifio ystod eang o dechnolegau adweithyddion niwclear sy’n rhannu nifer o nodweddion cyffredin ;

* maen nhw’n llai (o dan 300 Mw) yn cynhyrchu tua degfed rhan o drydan gorsaf niwclear gonfensiynol

* wedi eu cynllunio fel bod llawer o’r peirianwaith yn gallu cael ei wneud mewn ffatri a’i gludo i’r safle.

 

 

Yn gyffredinol, mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn syrthio i ddau gategori

a) SMR Cenhedlaeth lll wedi eu hoeri gan ddŵr – yn debyg i adweithyddion gorsafoedd niwclear presennol ond ar raddfa lai, a b) adweithyddion modiwlaidd datblygiedig Cenhedlaeth IV, sy’n defnyddio systemau oeri neu danwyddau gwahanol . Maen nhw’n amrywio mewn graddfa rhwng adweithyddion micro, bach a chanolig ac sy’n cwmpasu mathau technoleg o adweithyddion confensiynol wedi eu hoeri gan ddŵr, i’r rheiny sy’n defnyddio tanwyddau ac oeryddion newydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae SMR Westinghouse yn adweithydd dŵr dan bwysedd integrol >225 MWe

Mae’r Llywodraeth yn rhedeg Rhaglen Adweithydd Modiwlaidd Datblygedig (AMR) dau gam, wedi’i rheoli gan Innovate UK lle maen nhw wedi gwahodd cwmnïau fel Rolls Royce i gyflwyno cynlluniau / syniadau

Cam 1 – Lansiwyd ym Mawrth 2016, gan gynnig grantiau hyd at £4 miliwn i gefnogi tua 8 cynllun i ymgymryd ag astudiaethau dichonoldeb.

Cam 2 –Hyd at £40 miliwn i gefnogi 3-4 gwerthwr i gyflymu eu cynlluniau ee. yn Nhrawsfynydd

 

BETH SYDD O’I LE ARNYN NHW ?

Yr un hen dechnoleg yw hi - Mae’r syniad sylfaenol mewn gwirionedd yn dyddio yn ôl i’r 1940au, pan ddechreuodd Llu Awyr, Byddin a Llynges yr Unol Daleithiau

Ymchwil a Datblygu ar amrywiol fathau o adweithyddion bach. Mae rhai cefnogwyr yn eu gweld fel yr ateb i’r problemau sy’n wynebu adweithyddion mwy, yn enwedig costau cynyddol, diogelwch, a gwastraff ymbelydrol. Yn anffodus i’r diwydiant, nid yw adweithyddion ar raddfa fach yn gallu datrys y problemau hyn, a byddent yn debygol o’u dwyshau. Fel mae hanes yn dangos yn glir, ni fyddai adweithyddion modiwlaidd bach mor rhad nac mor hawdd i’w hadeiladu â’r hyn mae eu cefnogwyr modern yn honni.

 

(Cyflwyniad IEER/PSR http://www.ieer.org/fctsheet/small-modular-reactors2010.pdf. ) https://spectrum.ieee.org/tech-history/heroic-failures/the-forgotten-history-of-small-nuclear-reactors

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Peirianwaith Pŵer Atomig Enrico Fermi, Uned 1, ( Newport, Mich). – adeiladwyd gyda chyllid gan Gomisiwn Ynni Atomig yr Unol Daleithiau. Gweithredodd 1963 - 1972, er dioddef ymdoddiad rhannol yn 1966.

 

Dyma dafliad ola’r deis i ddiwydiant sy’n marw - mae cefnogwyr ynni niwclear yn gosod eu gobeithion ar Adweithyddion Modiwlaidd Bach heb feddwl am y problemau newydd y byddant yn eu creu fel archwilio llinellau cynhyrchu , gweithdrefnau ar gyfer galw yn ôl, na’r cymhlethdodau a chostau o amrywiaeth o ffurfiau newydd o wastraff niwclear ar nifer o wahanol safleoedd.

 

Pryderon diogelwch - Mae angen mwy o Adweithyddion Modiwlaidd Bach arnoch i gynhyrchu’r un maint o drydan â gorsafoedd confensiynol felly mae hynny’n codi materion diogelwch, ansawdd, trwyddedu ac wrth gwrs diogelwch

 

Nid yw rhatach o reidrwydd yn golygu cost-effeithiol - Yn Rhag 2017 dywedodd adroddiad Ymgynghoriaeth Atkins i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fod “ansicrwydd mawr ynglŷn ag economeg Adweithyddion Modiwlaidd Bach.” Canfu’r Adroddiad y byddai trydan o Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn costio bron draean yn fwy na gorsafoedd niwclear confensiynol oherwydd economïau graddfa gostyngol a chostau datblygu technoleg gyntaf o’i math.” http://www.atkinsglobal.com/en-GB/angles/all-angles/our-nuclear-future

 

 

Mae effeithlonrwydd ynni a’r rhan fwyaf o dechnolegau adnewyddol yn rhatach yn barod nac adweithyddion mawr newydd. Bydd yr amser y bydd yn cymryd i drwyddedu Adweithyddion Modiwlaidd Bach yn gwneud ychydig neu ddim byd o gwbl i helpu gyda problem cynhesu byd eang a bydd mewn gwirionedd yn cymhlethu’r ymdrechion sydd ar waith ar hyn o bryd.

mud001.jpg
mud 002.jpg

CYFLEUSTER GWAREDU DAEAREGOL (DYMPIO GWASTRAFF NIWCLEAR)

Ar 25 Ionawr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddogfen Ymgynghori ar y “Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol- Gweithio gyda chymunedau sydd o bosibl am gynnig lleoliad” (Ymatebion erbyn 20 Ebrill 2018)

 

Mae’r ddogfen yn ceisio barn ar y trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau yng Nghymru sy’n ystyried cynnig lleoliad i Gyfleuster Gwaredu yn Ddaearegol neu ddymp gwastraff .Mae cwestiynau yn cynnwys:

 

· beth allai olygu cymuned a sut allen nhw gael eu hadnabod (e.e. cyngor sir, cyngor cymuned, tirfeddiannwr, grŵp cymunedol neu grŵp lleol o fusnesau?)

 

· sut ddylai cymunedau gael eu cynrychioli a sut i gynnwys pobl yn y gymuned ehangach

 

· yr hawl i dynnu allan a’r prawf cefnogaeth gyhoeddus

 

· y goblygiadau ariannol.

 

 

                           Diagram : Radioactive Waste Management Ltd – Gweithredu Lleoli ac Ymgysylltu Rhag 2017

13 GORSAF YNNI NIWCLEAR NEWYDD ?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn unigryw i Gymru ac yn mynnu ein bod yn meddwl am effaith hir-dymor penderfyniadau, mae’n cynnig cyfle enfawr hefyd i wneud newidiadau hirhoedlog, cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r amser presennol a’r dyfodol ac eto i gyd mae Llywodraeth Cymru yn cymerdawyo polisi ynni sy’n gwrthddweud y Ddeddf.

 

Beth yw’r dyfodol i Gymru? Ydyn ni’n mynd i gael ein hamgylchynu gan orsafoedd ynni niwclear? – Ar hyn o bryd mae hynny’n edrych yn bosibl;

 

* Yn 2010 datganodd Llywodraeth y DU yn glir na fyddai’n rhoi cymorthdal i ddatblygiadau niwclear.

* 19 Gorffennaf 2011 cymeradwyodd Llywodraeth y DU Ddatganiad Polisi Cenedlaethol ar Gynhyrchu Niwclear. Rhestron nhw 8 safle yn Lloegr a Chymru fyddai’n addas ar gyfer adweithyddion niwclear newydd. Mae datblygwyr ar hyn o bryd yn cynllunio 13 o adweithyddion newydd yn 6 o’r safleoedd – y safleoedd enwebedig eraill yw Heysham a Hartlepool.

* Mawrth 2017 dechreuwyd tywallt concrit ar y strwythurau cyntaf yn Hinkley Point : rhwydwaith 8 cilomedr o dwnneli i gario pibellau a cheblau o gwmpas y safle; mae bwriad i ddympio mwd o’r safle ar Grounds Caerdydd o Orffennaf 2018 .

* Mehefin 4 2018 Greg Clarke yn cyhoeddi “Gallai Wylfa Newydd gostio mwy na £15 biliwn i’w adeiladu a chael ei gyllido’n rhannol hyd at £5 biliwn” gan wyrdroi addewid 2010 i beidio â rhoi arian cyhoeddus

 

Mae pedwar cynllun adweithydd yn cael eu hystyried ar gyfer adeiladu o’r newydd yn y DU: EPR Areva/ Framatome (yr Adweithydd dan Bwysedd Ewropeaidd yn wreiddiol), AP 1000 Westinghouse, Uwch-Adweithydd Dŵr Berwedig Hitachi-GE (ABWR), a HPR 1000 Hualong Tsieina. Mae grŵp Kepco o Dde Corea hefyd yn paratoi cynnig i ddefnyddio’i APR1400 yn y DU.

 

Pwyntiau allweddol i’w nodi:

· Mae’r DU wedi cronni cyfanswm 60 mlynedd o wastraff lefel uchel fydd yn bodoli os caiff gorsafoedd niwclear newydd eu codi neu beidio. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu gorsafoedd niwclear newydd ar safleoedd presennol yng Nghymru

 

· Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig – mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am benderfynu ar y polisi ar gyfer hyn o fewn Cymru. Mae’r polisi yn seiliedig ar gymuned neu gymunedau yn bodloni derbyn cyfleuster gwaredu

daearegol. Bydd angen cymeradwyaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (SRN) a chaniatâd cynllunio.

 

· Y dewis yw am gyfleuster unigol i gymryd gwastraff o Gymru, Lloegr ac o bosibl Gogledd Iwerddon. Pe byddai Cyfleuster Gwaredu Daearaegol yn cael ei leoli o fewn cymuned sy’n cynnig lleoliad yng Nghymru byddai felly yn cymryd gwastraff o’r tair gwlad.

 

· Yn ystod trafodaethau bydd hyd at £1 miliwn y flwyddyn ar gael i gymunedau sy’n cynnig . Os oes gan y safle’r potensial i dderbyn y gwastraff yna bydd hyd at £2.5 miliwn fesul cymuned ar gael – yn y pen draw mae buddion ariannol eraill.

 

Mae gwastraffau i’w gwaredu yn cynnwys

 

· Gwastraff Lefel Uchel o ailbrosesu yn Sellafield

 

· Gwastraff Lefel Canolraddol o safleoedd niwclear presennol, a gweithgareddau amddiffyn, meddygol, diwydiannol ymchwil ayb.;

 

· Rhywfaint o Wastraff Lefel Isel o Drigg yn Cumbria

 

· Tanwydd a ddihysbyddwyd o adweithyddion presennol a Gwastraff Lefel Canolraddol o raglen adeiladu newydd hyd at swm diffiniedig.

 

 

BETH ALLWCH CHI WNEUD NAWR

 

- Dysgwch beth mae eich Cynghorydd Sir a Chyngor Cymuned yn meddwl am waredu gwastraff niwclear ar eu darn hwy o dir.

 

- Gadewch i Lywodraeth Cymru a’ch AC wybod nad yw Cymru yn mynd i fod yn ’oen i’r lladdfa’ unwaith eto.

 

- Dywedwch nad ydych yn fodlon i gefnogi atebion dympio gwastraff hyd y gelwir am atal datblygiadau niwclear ychwanegol.

 

Gwybodaeth ychwanegol: Ansawdd Amgylchedd a Rheoleiddio Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ e-bost: EQR@gov.wales teleffon:03000 253235 & 03000 257726

https://consultations.gov.wales/sites/default/files/consultation_doc_files/180125-geological-disposal-of-radioactive-waste-en_0.pdf

bottom of page